Save the Date: Notice of Children in Wales’ Annual General Meeting (AGM) – Saturday, 16 November 2024  

This year, we are pleased to announce that we will be holding our Annual General Meeting as part of our Young Wales Festival. This will give members the chance to join in some of the celebrations at the Festival and to hear our young volunteers describe the work and activities they’ve engaged with over the year. We’ll also be launching our new 3 year strategy, which has included input from a range of stakeholders including yourselves. We hope that you will be able to join us in person on Saturday, 16 November 2024. Details of timings and how to join the meeting will be sent in due course, if you can’t attend in person there will be an opportunity to join us for the AGM business online. 

Call for Nominations 

I am also writing to seek nominations to the Children in Wales Trustee Board, to take office from the AGM. This year, there are two places available for election to the Trustee Board. 

We are extremely grateful for the support and guidance that the Trustees provide for our organisation and it is important that our Trustee Board reflects the broad membership of Children in Wales. You can self-nominate, or nominate another individual with their permission. You can find a link below to a guidance note which provides further information about becoming a Trustee, but if you have any queries please do not hesitate to get in touch. 

The deadline for receipt of nominations is Friday, 11 October 2024 - I would be very grateful if you could consider making a nomination to become one of our elected Trustees.   

See our nomination guidance

Nomination form - nominate a Trustee 

I hope that you will be able to attend the Annual General Meeting and look forward to seeing you there.   

Yours sincerely  

Hugh Russell  Chief Executive 



Cadw’r Dyddiad: Hysbysiad ynghylch Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol (CCB) Plant yng Nghymru – dydd Sadwrn, 16 Tachwedd 2024  

Eleni, rydyn ni’n falch o gyhoeddi y byddwn ni’n cynnal ein Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol fel rhan o Ŵyl Cymru Ifanc. Bydd hynny’n rhoi cyfle i’n haelodau ymuno yn rhai o ddathliadau’r Ŵyl a chlywed ein gwirfoddolwyr ifanc yn disgrifio’r gwaith a’r gweithgareddau y buon nhw’n rhan ohonynt yn ystod y flwyddyn. Byddwn ni hefyd yn lansio ein strategaeth 3 blynedd newydd, sydd wedi cynnwys mewnbwn gan amrywiaeth o randdeiliaid, gan eich cynnwys chi. Rydyn ni’n gobeithio y byddwch chi’n gallu ymuno â ni yn bersonol ddydd Sadwrn, 16 Tachwedd 2024. Bydd manylion yr amseriadau a sut mae ymuno â’r cyfarfod yn cael eu hanfon yn y man, ac os na fedrwch fod yn bresennol yn bersonol, bydd cyfle i ymuno â ni ar gyfer busnes y CCB ar-lein. 

Galwad am Enwebiadau  

Rwyf hefyd yn ysgrifennu i ofyn am enwebiadau i Fwrdd Ymddiriedolwyr Plant yng Nghymru, fydd yn cychwyn yn eu swyddi o’r CCB ymlaen. Eleni, mae dau le ar gael ar gyfer etholiadau i Fwrdd yr Ymddiriedolwyr. 

Rydyn ni’n eithriadol o ddiolchgar am y gefnogaeth a’r arweiniad mae’r Ymddiriedolwyr yn eu rhoi i’n sefydliad, ac mae’n bwysig bod Bwrdd yr Ymddiriedolaeth yn adlewyrchu aelodaeth eang Plant yng Nghymru. Gallwch enwebu eich hun, neu enwebu unigolyn arall gyda’u caniatâd. Isod cewch ddolen i nodyn arweiniol sy’n cynnwys rhagor o wybodaeth am ddod yn Ymddiriedolwr, ond os oes gennych unrhyw gwestiynau, mae croeso i chi gysylltu â ni. 

Y dyddiad cau ar gyfer derbyn enwebiadau yw dydd Gwener, 11 Hydref 2024 – byddwn i’n ddiolchgar iawn os gallech chi ystyried enwebu rhywun i fod yn un o’n Hymddiriedolwyr etholedig. 

Gweler ein canllaw enwebu 

Ffurflen enwebu - enwebu Ymddiriedolwr 

Rwy’n gobeithio y byddwch chi’n gallu dod i’r Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol, ac rwy’n edrych ymlaen at eich gweld chi yno.   

Yn gywir  

Hugh Russell  Prif Weithredwr 


Registered Charity / Elusen Gofrestredig 1020313. Company limited by guarantee / Cwmni cyfyngedig trwy warant 2805996. Head office / Pencadlys: 21 Windsor Place / Plas Winsor, Cardiff / Caerdydd CF10 3BY
Log in | Powered by White Fuse