CHILDREN IN WALES' ANNUAL GENERAL MEETING
Saturday, 16 November 2024, 12:15pm
Joining Instructions
We are pleased to confirm that we will be holding our Annual General Meeting as part of our Young Wales Festival. Due to venue capacity, there are a limited number of places available for members to attend the event in person but, if you miss out on one of the available spaces or can’t get to the venue, you will still be able to join online via Teams.
We would be very grateful therefore if you could let us know as soon as possible whether you are able to attend or give your apologies by replying to this email. If you’d like to attend in person, places will be allocated in the order we receive them and we will let you have details about the venue and those arrangements separately.
The agenda and papers for the AGM are attached, and the link for the online meeting is below. Registration for online attendees will open at 12:05pm. The meeting will last approximately 30 minutes.
It is important that we have a minimum number of members at the AGM and we sincerely hope that you will all be available to attend. If you are unable to attend, we would be very grateful if you could please complete the Proxy Voting form – this will allow your vote to count and help us to be quorate.
CYFARFOD CYFFREDINOL BLYNYDDOL PLANT YNG NGHYMRU
Dydd Sadwrn, 16 Tachwedd 2024, 12:15pm
Cyfarwyddiadau Ymuno
Rydyn ni’n falch o gadarnhau y byddwn ni’n cynnal ein Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol fel rhan o’n Gŵyl Cymru Ifanc. Oherwydd maint y lleoliad, nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael i aelodau fynychu’r digwyddiad yn bersonol, ond os na chewch un o’r lleoedd sydd ar gael, neu os na fedrwch gyrraedd y lleoliad, byddwch chi’n dal i fedru ymuno ar-lein trwy Teams.
Bydden ni’n ddiolchgar iawn, felly, os gallech chi roi gwybod i ni cyn gynted â phosib ydych chi’n gallu bod yn bresennol, neu anfon ymddiheuriadau trwy ymateb i’r e-bost yma. Os hoffech fod yn bresennol, byddwn ni’n dyrannu lleoedd yn y drefn rydyn ni’n eu derbyn, a byddwn ni’n rhoi manylion i chi am y lleoliad a’r trefniadau hynny ar wahân.
Atodir yr agenda a’r papurau ar gyfer y CCB, ac mae’r ddolen ar gyfer y cyfarfod ar-lein isod. Bydd cofrestru ar gyfer y rhai sy’n ymuno ar-lein yn agor am 12:05pm. Bydd y cyfarfod yn para rhyw 30 munud.
Mae’n bwysig ein bod ni’n cael yr isafswm gofynnol o aelodau yn y CCB, ac rydyn ni’n mawr obeithio y bydd pawb ohonoch yn gallu bod yn bresennol. Os na fedrwch ymuno â ni, bydden ni’n ddiolchgar iawn petaech chi’n gallu llenwi’r ffurflen Pleidlais Brocsi – bydd hynny’n golygu bod modd cyfrif eich pleidlais, a bydd yn ein helpu i sicrhau cworwm.