Children's Rights Thematic Webinar Series - Session 3
The changing nature of modern parenthood – how best to support parents' and families' needs
Online via Teams
Our Children’s Rights thematic webinar series draws on key strands of Welsh Government’s Children’s Plan and Programme for Government. Each session will focus on a different topic affecting children and young people, and aims to give a better understanding of the opportunities and barriers that exist in realising children’s rights in Wales. This webinar will focus on modern parenthood.
To begin the webinar, Anna Westall, Policy Officer at Children in Wales will provide a summary of the important role parents play in supporting and defending children’s rights.
We will then be delighted to hear from a few colleagues, the first being Eleanor Ireland, Programme Head of Education and Richard Batcheler, Independent Researcher at Nuffield Foundation. Both will present the findings from their recent publication Time for Parents which looks at the changing nature of parents and the home, and is part of the Foundation's Changing Face of Early Childhood series. This series has gathered and reflected on the latest evidence on how the lives of young children and their families in the UK have changed over the past 20 years.
The presentation will cover:
o How should we understand parents and the home?
o What do we know about how parents, parental care and homes are changing?
o What do we know about the support parents want and need?
o What does the available evidence tell us about the effectiveness of parenting programmes in meeting the needs of families with young children?
Kim Jones, Specialist Health Visitor Perinatal Mental Health, Cardiff and Vale UHB will then cover the mental health of fathers in the perinatal period. The importance of maternal mental health in the perinatal period is widely acknowledged, with it becoming highlighted on the political agenda, alongside research, clinical guidelines and policies. Conversely, the mental health of fathers is often neglected, inadequately understood and poorly addressed.
Kim will provide an overview on mental health in fathers in the perinatal period, looking at the prevalence, risk factors and the impact on the wider family.
To conclude, Steve Lewis, Matthew Harvey and Gareth Rossiter of Supporting Dads in Blaenau Gwent will provide a useful insight into the work of the Dads Support Workers who are actively working with over 70 fathers in the borough. Including project operations; examples of group intervention, one to one support; evidence of outcomes using the ‘Fathers Baseline Assessment Tool’ and feedback from the dads who have received support.
Cyfres Gweminar Thematig Hawliau Plant: Sesiwn 3
Natur gyfnewidiol bod yn rhieni modern – y ffordd orau o gefnogi anghenion rhieni a theuluoed
Arlein trwy Teams
Mae ein cyfres gweminar thematig Hawliau Plant yn tynnu ar linynnau allweddol Cynllun a Rhaglen Plant Llywodraeth Cymru. Bydd pob sesiwn yn canolbwyntio ar bwnc gwahanol sy'n effeithio ar blant a phobl ifanc, a'r nod yw rhoi gwell dealltwriaeth o'r cyfleoedd a'r rhwystrau sy'n bodoli wrth wireddu hawliau plant yng Nghymru. Mae'r gweminar hwn yn canolbwyntio ar rhieni modern.
I ddechrau'r webinar, bydd Anna Westall, Swyddog Polisi Plant yng Nghymru yn rhoi crynodeb o rôl bwysig rhieni wrth gefnogi ac amddiffyn hawliau plant.
Mi fyddwn yn falch iawn wedyn o glywed gan ambell gydweithiwr, y cyntaf fydd Eleanor Ireland, Pennaeth Rhaglen Addysg Sefydliad Nuffield a Richard Batcheler, ymchwilydd annibynnol i Sefydliad Nuffield. Bydd y ddau yn cyflwyno canfyddiadau eu cyhoeddiad diweddar, Time for Parents, sy’n edrych ar natur newidiol rhieni a’r cartref a sydd yn rhan o gyfres Changing Face of Early Childhood y sefydliad. Mae'r gyfres wedi casglu a myfyrio ar y dystiolaeth ddiweddaraf ynghylch sut mae bywydau plant ifanc a’u teuluoedd yn y Deyrnas Unedig wedi newid yn ystod yr 20 mlynedd diwethaf.
Bydd y cyflwyniad yn rhoi sylw i’r canlynol:
o Sut dylen ni ddeall rhieni a’r cartref?
o Beth rydyn ni’n ei wybod am sut mae rhieni, gofal rhieni a chartrefi yn newid?
o Beth rydyn ni’n ei wybod am y gefnogaeth mae rhieni eisiau ac angen?
o Beth mae’r dystiolaeth sydd ar gael yn ei ddweud wrthyn ni am effeithiolrwydd rhaglenni rhianta o ran ymateb i anghenion teuluoedd â phlant ifanc?
Kim Jones, Ymwelydd Iechyd Arbenigol, Iechyd Meddwl Amenedigol. Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro fydd wedyn yn ystyried iechyd meddwl tadau yn y cyfnod amenedigol. Mae cydnabyddiaeth gyffredinol o bwysigrwydd iechyd meddwl y fam yn y cyfnod amenedigol, ac mae’n cael sylw ar yr agenda wleidyddol, ochr yn ochr ag ymchwil, canllawiau clinigol a pholisïau. Mewn gwrthgyferbyniad, mae iechyd meddwl tadau yn aml yn cael ei esgeuluso, nid oes dealltwriaeth ddigonol ohono, ac mae’r sylw a roddir iddo’n wael.
Bydd Kim yn rhoi trosolwg o iechyd meddwl tadau yn y cyfnod amenedigol, gan edrych ar amlygrwydd, ffactorau risg a’r effaith ar y teulu ehangach.
I orffen, fe fydd Steve Lewis, Matthew Harvey a Gareth Rossiter o dim Cefnogi Tadau ym Mlaenau Gwent yn rhoi cipolwg ar waith y Gweithwyr Cefnogi Tadau sydd wrthi’n rhagweithiol gyda mwy na 70 o dadau yn y fwrdeistref. Mae hyn yn cynnwys gweithrediadau prosiect; enghreifftiau o ymyriadau grŵp, cefnogaeth un i un; tystiolaeth o ganlyniadau wrth ddefnyddio’r ‘Offeryn Asesu Gwaelodlin i Dadau’ ac adborth gan y tadau sydd wedi derbyn cefnogaeth.
If you would like to be kept informed of our future poverty sessions and other webinars, please complete this form / Os hoffech chi gael gwybod am sesiynau tlodi yn y dyfodol, a gweminarau arall, llenwch y ffurflen hon os gwelwch fod yn dda: